Taith Gerdded ‘Pot Luck’

 

Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018

Bob blwyddyn mae pobl yn ceisio archebu, dim ond i ganfod nad oes lle ar ôl. Mae hyn yn rhwystredig i gerddwyr ac arweinwyr fel ei gilydd, felly dewch beth bynnag ar y dydd a mentro’ch lwc!

Bydd 3 dewis –

  1. Ymunwch ag un o’r teithiau cerdded swyddogol (os bydd lle wedi codi ar y munud olaf)
  2. Ewch ar un o Trywyddau Trefriw (cyfres o 8 taith hunan-dywys). Bydd cyfeiriadau efo mapiau ar gael ar gardiau
  3. Dilynwch Drywydd y Chwedlau, sydd yn daith hunan-dywys ar gerdyn, a lansiwyd y llynedd
Hyd: Addas i’r grŵp. Dewch â bocs bwyd.

Pellter: Addas i’r grŵp

Cyafarfod: o 9.15 y.b. ymlaen yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

 

Er nad oes rhaid archebu, gwnewch yn siwr eich bod wedi darllen yr amodau a thelerau sydd yn dal yn berthnasol i bob taith gerdded.