Hanes Naturiol Eryri

Dydd Gwener 18fed Mai, 2018

Hanes Naturiol ar Hen Lwybr y Porthmyn

Taith gerdded o Drefriw i Gapel Curig.  Byddwn yn dilyn hen lwybr y porthmyn, mynd trwy hen goetir, pasio hen fwyngloddiau, a chroesi gweundir.  Os bydd y tywydd a gallu’r grŵp yn caniatau, byddwn yn dringo i gopa’r Crimpiau, o le mae golygfeydd gwych o’r mynyddoedd o gwmpas. Dyma gyfle i ddysgu am yr hanes folcanig a thectonig sydd wedi creu’r creigiau a’r dirwedd yn Eryri.

Bydd digon o amser am banad yng Nghapel Curig neu ym Mhlas y Brenin cyn dal y bws mini yn ôl i Drefriw.

Hyd:  Trwy’r dydd 6 awr.     Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  8 milltir / 13 km

Gradd:  Cymedrol

Cyfarfod:  x.xx y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  i’w gadarnhau

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Bydd archebion yn agor ar 15fed Mawrth.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.