Cylchdaith Moel Siabod

Moel Siabod

Dydd Sul 20fed Mai, 2018

Moel Siabod

Mae hon yn gylchdaith heriol sy’n cychwyn o Bont Cyfyng, ger Capel Curig. Byddwn yn esgyn Moel Siabod ar ei chrib dwyreiniol, lle bydd ‘na elfen o sgramblo o Lyn y Foel i’r copa. O’r copa (2861’ / 872m) mae ‘na olygfeydd da i bob cyfeiriad, yn enwedig o Bedol yr Wyddfa. Byddwn yn disgyn i Blas y Brenin i lawr cefn llydan Siabod, wedyn dilyn Afon Llugwy yn ôl i Bont Cyfyng.

Byddwn yn teithio i Bont Cyfyng ac yn ôl yn ein bws mini.

Sylwer – mae’n medru bod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo ‘sgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes sy’n dal dŵr.

Hyd: Trwy’r dydd – 7 awr. Dewch â bocs bwyd.

Pellter: 7 milltir / 11 km

Gradd: Cymhedrol/caled

Cyfarfod: xx y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion: i’w gadarnhau

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu: – Bydd archebu yn agor ar 15fed Mawrth, 2018

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.