Dydd Sadwrn 16eg Mai, 2020
Y Tywysog a’r Wrach – Cylch Carnedd Llywelyn
Dyma ein taith gerdded fynydd mawr eleni!
I gychwyn byddwn ni’n teithio yn y bws mini (dim ond 10 munud) dros yr allt y tu ôl i Drefriw, i Gwm Cowlyd.
O fa’na byddwn ni’n cerdded i gopa Carnedd Llywelyn (‘y Tywysog’, 1,064 m / 3,491′, ac yn ail i’r Wyddfa), cyn dychwelyd trwy Ben yr Helgi Du a Phen Llithrig y Wrach (‘y wrach’, 799 m / 2,621′) i Gwm Cowlyd a Threfriw. Os bydd y cymylau yn uchel bydd y golygfeydd yn ardderchog, ond byddwch heb unrhyw lol, mae hon yn daith hir ac anodd efo rhyw 1220m / 4000′ o esgyniad.
Dydy’r llwybr hwn ddim yn dilyn llwybrau amlwg bob tro. Sylwer hefyd bod ‘na rannau sydd yn agored, ac mewn cwpl o fannau bydd rhaid defnyddio dwylo.
Os bydd y bws mini ar gael, mi gawn ni lifft yn ôl i Drefriw o Gwm Cowlyd; fel arall mi gychwynnwn ni gerdded a’i gyfarfod hanner ffordd.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 11 milltir / 18 km (ymhellach os byddwn ni’n cerdded rhan o’r ffordd yn ôl i Drefriw)
Gradd: Llafurus, mynydd uchel. Cofiwch y medrith hi fod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes (gan gynnwys het a menig), ac esgidiau cerdded addas.
Addasrwydd: Cerddwyr heini a phrofiadol
Cyfarfod: 8:15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Mike Bolsover a Nick Livesey (ffotografydd o fri)
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.