Golygfeydd a Fistâu

Dydd Sul 19eg Mai, 2019

Golygfeydd a Fistâu

Mae hon yn daith gerdded olygfaol, gwych yn rhannau uwch ymylon Coedwig Gwydir, sydd â golygfeydd agored, hyfryd dros y dyffrynnoedd cyfagos, a thraw i fynyddoedd gogledd Eryri.

Byddwn yn dal y bws i Wydir (dim ond 1.5 filltir o Drefriw), wedyn bydd ein llwybr yn anelu o Wydir Uchaf i fyny at Lyn Parc, sydd â golygfeydd uchel uwchben Dyffryn Conwy, wedyn dros i Nant Bwlch-yr-haearn, lle mae modd (pan fydd hi’n glir) gweld 9 copa dros 3000′.  Byddwn yn pasio Llyn Bwlch y gwynt a Llyn Glangors, sydd â’u golygfeydd eu hunain tuag at y mynyddoedd, wedyn yn ôl i Drefriw heibio i Lyn Geirionydd ac uwchben Dyffryn Crafnant.

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  Tua 9 milltir / 14 km

Gradd:  Cymhedrol, ond hamddenol

Cyfarfod:  9.20 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
(Bydd rhaid talu am y bws (£2.70) onibai bod gynnoch chi bas bws)

Arweinyddion:  Karen Black and Gill Scheltinga

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:   I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig