Y ddaear dan eich traed

Dydd Gwener 15fed Mai, 2020

Y Ddaear dan eich Traed

Byddwn ni’n dilyn llwybr hamddenol o Drefriw yn Nyffryn Conwy, trwy Ddyffryn Crafnant at y llyn o’r un enw. Wedi gadael y llethrau coediog ac esgyn i’r col, mae’r tirwedd yn newid yn hollol – dyma rannau uchaf Dyffryn Ogwen. Does dim coed, ac ar y rhostir mae’n hollol bosib y gwelwn ni adar ysglyfaethus yn ogystal â blodau’r gwanwyn. Yn yr ardal hon mae teimlad o fod yn anghysbell ac yn y mynyddoedd heb orfod gwneud yr ymdrech o fynd yn uchel!  Byddwn yn disgyn i Gaffi Siabod yng Nghapel Curig, lle bydd ‘na gyfle am banad a chacen tra’n aros am y bws mini yn ôl i Drefriw.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 6.5 milltir / 10 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol iawn

Cyfarfod:  9:00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Jim Langley (o Nature’s Work) a Gill Scheltinga

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:   I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig