Trychineb Dolgarrog

Dydd Gwener 17eg Mai, 2019

Trychineb Dolgarrog

Bydd y daith hon yn gadael Trefriw trwy gerdded i fyny Cefn Cyfarwydd, y cefn tu ôl i’r pentref, i Gwm Cowlyd. Bydd y daith yn serth i gychwyn, ond mae’n cynnig golygfeydd 360° o Eryri a’r arfordir. Byddwn yn croesi o flaen argae Cowlyd, wedyn dros ysgwydd Moel Eilio i Gwm Eigiau a Llyn Eigiau a’i argau. Achoswyd y trychineb yn Nolgarrog yn 1925 pan dorrodd yr argae hwn. Byddwn yn dilyn cwrs y llifddyfroedd ar hyd hen dramffordd Eigiau yn ôl i Ddolgarrog, heibio i Gronfa Coedty, uwchben y pentref, cyn disgyn i Ddolgarrog i ymweld â’r garreg goffa yno. Byddwn yn dychwelyd i Drefriw ar ein bws mini.

Cofiwch mai weithiau mae’n oer yng ngodreuon y Carneddau, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: tua 10.5 milltir / 17 km

Gradd: Cymhedrol/caled, efo rhai darnau mwy serth, yn enwedig ar y dechrau lle mae ‘na ryw 800’ o esgyniad yn y 3/4 milltir cyntaf.

Cyfarfod: 9.00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.

Arweinyddion:  Nigel Thomas ac Idris Bowen

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:   I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig